Y Tylwyth Teg (Chwedlau Cymru)
Dyma chwe chwedl, neu stori, o Gymru am y Tylwyth Teg. Mae’r chwedlau’n dod o bob rhan o Gymru – Caernarfon, Tywyn a Llangollen yn y Gogledd a Gilfach Bargoed, Penrhyn Gŵyr a Sir Benfro yn y De. Rwyt ti’n gallu darllen chwedl o dy ardal di. Mae pob stori yn ddiddorol iawn. Mae’n dda gwybod am chwedlau Cymru, hanes y wlad ac am y chwedlau sy’n dod o dy ardal di. Yr awdur: Mae Fiona Collins yn byw ger Corwen yn Sir Ddinbych. Mae hi wedi dysgu Cymraeg – ac mae hi wedi ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn. Ers y 1990au, mae hi’n gweithio fel chwedleuwr. Mae hi wedi ysgrifennu dau lyfr arall o chwedlau Cymru: Chwedlau Cymru: Ceffylau a Chwedlau Cymru: Y Môr. I Fiona, mae gwrando ar chwedlau, neu ddarllen chwedlau, yn ffyrdd da o ddysgu Cymraeg. Fformat: Clawr Meddal ISBN: 9781845248017 Tudalennau: 54 Dyddiad Cyhoeddi: 11/09/2026
Variants (1)
- Default Title — 9.00 USD — In stock
How AI sees this product
The more complete this product's details, the more confidently AI assistants can understand and recommend it.