Canrif a Mwy o'r Babell Len
Saunders, Kate, y Blew ... Hywel Teifi, Ffion Dafis, Eric Ngalle ... Dyma rai yn unig o’r miloedd sydd wedi ymddangos ar lwyfan y Babell Lên. Byth ers 1920 mae wedi bod yn gartref i lenorion, i feirdd, ac i lawer o bobl ddiddorol eraill ar faes yr Eisteddfod, ond dyma’r tro cyntaf i neb geisio crynhoi hanes cyfoethog y lle hwn mewn cyfrol. Yn ôl gwefan yr Eisteddfod Genedlaethol: ‘Mae’n debyg mai Y Babell Lên yw’r adeilad enwocaf ar y Maes, ar ôl y Pafiliwn’. Yma cewch wybod pam. O’r ymryson i’r darlithiau, o’r beirniadu i’r darlledu, o’r stiwardiaid i gynllun y lle ei hun, dyma flas ar hanes y Babell Lên. Mae Ifor ap Glyn yn hanesydd, yn fardd ac yn gynhyrchydd teledu. Mae ei raglenni yn cynnwys ‘Canrif o’r Babell Lên’ fu’n fan cychwyn i’r gyfrol hon. ISBN: 9781845277970 Cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2026 Dyddiad ar gael: 22 Mehefin 2026 Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 150 tudalen Nodiadau ar gyfer bob pennod
Variants (1)
- Default Title — 12.00 USD — In stock
How AI sees this product
The more complete this product's details, the more confidently AI assistants can understand and recommend it.