Holi Hai - Copi Digidol

Holi Hai - Copi Digidol

Brand: Peniarth
SKU: DIGI-IWW-HH
2.50 GBP In stock Buy at Merchant

Pum mlwydd oed yw Saabira ac mae'n aros yng nghartref ei mam-gu ac yn clywed stori arbennig Krishna. Beth am ddarllen y stori i ddarganfod sut mae Saabira a'i mam-gu yn profi hud a lledrith yn y mandir? Dyma stori bersonol lle mae Mam-gu yn helpu ei hwyres i ddeall ystyr yr ŵyl Holi. Mae'r berthynas gariadus rhwng y ddau gymeriad yn arddangos y gwerthoedd Hindŵaidd y dymunai'r genhedlaeth hŷn eu trosglwyddo i'r genhedlaeth ifanc. Mae'r llyfr stori yma'n cyd-fynd gyda'r llawlyfr digidol Tybed Pam. Mae plant ifanc yn chwilfrydig ac yn gofyn cwestiynau yn naturiol am fywyd ac am y byd o’u hamgylch. Mae’r gyfres ‘Tybed pam?’ yn archwilio amrywiaeth o wahanol faterion ac agweddau ar addysg grefyddol a moesol trwy gyfrwng llyfrau stori lliwgar a gweithgareddau atodol sy’n addas i blant ar gamau cynnydd 1 a 2. Fersiwn PDF lawrlwythiadwy o'r llyfr argraffwyd gwreiddiol ydy hyn.

Variants (1)
  • Default Title — 2.50 GBP — In stock

AI Readiness

Good foundation, but some important product data is still missing.

78%