Y Gwir yn Erbyn y Byd
Gan fod Ceri wedi symud i fyw i dde Cymru gyda’i mam ar ganol tymor ysgol, yn dilyn Y Digwyddiad, mae pethau’n anodd iddi yn ei hysgol newydd. Nid yw cyngor ei mam i gadw dyddiadur yn help o gwbl. Ond pan gaiff y dosbarth Hanes dasg i greu prosiect ymchwil ar Iolo Morganwg, mae Ceri’n dysgu cymaint amdani hi ei hun ag y mae hi am y cymeriad hanesyddol hynod. Nofel yw hon sy’n gwau ffaith a ffuglen, hanes a hiwmor, drwy blethu dyddiadur cyfoes Ceri gyda’r prosiect hanes. Wrth gyflwyno anturiaethau Iolo Morganwg, mae’r awdur yn dangos y gall hanes fod yn ddrych i fywydau a phrofiadau Cymry ifanc heddiw. LLIO ELAIN MADDOCKS Bardd ac awdur sy’n wreiddiol o Lan Ffestiniog. Mae wedi cyhoeddi llyfrau i blant ac oedolion, ac mae nifer o’i cherddi i’w gweld ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn gwahanol gyfrolau. Yn ei gwaith bob dydd, mae hi’n Gyfarwyddwr y Celfyddydau gydag Urdd Gobaith Cymru, ac yn gyfrifol am gynnig profiadau celfyddydol drwy’r Gymraeg i blant a phobl ifanc ar draws Cymru. MEI MAC Mae'n gartwnydd dawnus ac eisoes wedi gwneud gwaith i'r Wasg gan gynnwys darlunio Chwedlau'r Pysgod a Harri Puw a'r Bocs Breuddwydion, yn yr arddull yma. Ef fu'n gyfrifol am glawr Y Ferch ar y Cei, ac am ddarlunio Straeon Hynod yn ein Hanes.
Variants (1)
- Default Title — 13.00 USD — In stock
How AI sees this product
The more complete this product's details, the more confidently AI assistants can understand and recommend it.