Barti a Bwystfil y Môr
Y nofel gyntaf mewn cyfres newydd wedi’i lleoli ar ynys yn y Môr Celtaidd oddi ar arfordir gorllewin Cymru. Mae’n cyfuno straeon arfordir diddorol/cyfarwydd gyda gofal am adar ac anifeiliaid. Mae elfen gyfoethog o gadwraeth dan yr wyneb. Nofel wedi’i chynllunio’n ofalus i gynorthwyo’r darllenwyr ifanc i fachu yn y stori ac i’w gwneud yn ddarllenwyr mwy hyderus a phrofiadol. Gwerth y gyfrol yw y bydd yn gwneud i blant werthfawrogi byd natur a deall yr amgylchedd ar yr arfordir yn well – ond hefyd yn magu cariad at lyfrau. Mae mam Tia wedi cael swydd newydd fel milfeddyg ar ynys. Yno, mae llawer o greaduriaid angen ei chymorth.Pan gaiff y mam Tia ei galw i helpu buwch sy’n sâl ar ynys gyfagos, mae storm yn codi ac mae Tia’n gaeth ar yr ynys. A all Tia ofalu am yr anifeiliaid sydd angen ei help yn y feddygfa? A beth yw’r creadur rhyfedd sy’n cael ei olchi i’r traeth gan y storm. Mae bywyd ar yr ynys yn llawn anturiaethau! GILL LEWIS Bu’n gweithio fel milfeddyg ar draws y byd cyn dod yn awdur nifer o nofelau i blant. Mae’i straeon yn aml yn cynnwys adar ac anifeiliaid ac yn procio darllenwyr ifanc i ystyried eu hamgylchfyd a gwarchod byd natur. ELEN WILLIAMS Gwraig fferm o Lŷn sy’n gyn-athrawes, yn fam i dri o blant ac yn olygydd ac addasydd llyfrau plant gyda Gwasg Carreg Gwalch. Mae eisoes wedi addasu un o nofelau Gill Lewis: Galwad yr Alarch.
Variants (1)
- Default Title — 12.00 USD — In stock
How AI sees this product
The more complete this product's details, the more confidently AI assistants can understand and recommend it.